Rydym yn deall y gall gwneud cais trwy'r system Glirio fod yn gyfnod gofidus i rai, ac y byddech chi eisiau sicrhau bod popeth mewn trefn cyn i chi symud i'ch cartref newydd ym mis Medi a dechrau ar eich taith gyffrous gyda ni.
Cynnig Llety Gwarantedig
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ceisio gwneud pethau mor hawdd â phosibl i chi. Ar gyfer myfyrwyr Clirio, rydym yn cynnig Llety Gwarantedig. Gwnewch gais am lety wedi ei reoli gan y Brifysgol cyn Medi 9fed i gael cynnig llety wedi ei warantu.
Mae gwneud cais yn rhad ac am ddim a'r cynharaf y gwnewch chi gais, y gorau!
Proses cam wrth gam i ddiogelu'ch lle
1. Edrychwch ar ein llety i weld pa safle a math o ystafell sydd orau i chi.
Yn ystod Clirio, mae siawns na fyddwn ni'n gallu cynnig eich dewis cyntaf o lety i chi ond byddwn yn gwneud ein gorau i roi rhywbeth mor debyg â phosibl i chi.
2. Cyflwynwch gais am lety gan ddefnyddio eich rhif Adnabod Personol UCAS. Os wnaethoch chi gais yn uniongyrchol ac nid drwy UCAS, byddwch yn derbyn rhif adnabod Myfyriwr Clirio y gallwch ei ddefnyddio wrth wneud cais am lety:
- Pan fyddwch chi'n barod, bydd angen creu cyfrif llety ar ein porth llety gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar bob cam.
- Gwnewch nodyn o bopeth y bydd angen i chi ystyried yn ystod y broses o lenwi'r cais, fel unrhyw gyflyrau meddygol neu ofynion ychwanegol.
- Pan fyddwch wedi gorffen eich cais, byddwn yn anfon e-bost awtomataidd atoch gyda manylion eich cais a gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif i ddiweddaru eich dewisiadau neu wirio statws eich cais unrhyw bryd. Ni fydd diweddaru eich dewis yn effeithio ar y dyddiad y gwnaethoch eich cais gyntaf.
- Byddwn yn cadarnhau eich dyraniad llety pan fydd eich lle ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei gadarnhau, ar neu yn fuan ar ôl Diwrnod Canlyniadau Safon Uwch. Ewch i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd nesaf.
3. Dylech chi dderbyn eich llety a thalu eich blaendal a rheoli eich ffioedd llety.
4. Paratowch i symud i mewn drwy wirio'r hyn mae angen i chi ddod ag ef, yr hyn rydym ni'n ei ddarparu a hyd yn oed sut i addurno eich ystafell!