Polisi Gyrfaoedd Moesegol Prifysgol Abertawe

Diben
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o fod yn sefydliad egwyddorol, pwrpasol a gwydn, sydd wedi ymrwymo nid yn unig i drawsnewid bywydau drwy addysg ac ymchwil, ond hefyd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y gymdeithas sydd ohoni. Mae'r Polisi Gyrfaoedd Moesegol hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad dwfn i'n cenhadaeth ddinesig ac i ddatblygu dinasyddion byd-eang sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ac sy'n gweithredu gyda gonestrwydd, tosturi a pharch at eraill.
Wedi'i sefydlu gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant, rydym bob amser wedi cydnabod gwerth partneriaethau cryf. Ond yn union fel y mae gweddw crefft heb ei dawn, felly hefyd y mae cyflogadwyedd heb foeseg. Wrth baratoi ein myfyrwyr ar gyfer byd gwaith, rhaid inni sicrhau bod y cyfleoedd a hyrwyddwn yn gyson â'n gwerthoedd, a bod ein cysylltiadau â chyflogwyr yn cefnogi ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer cynaliadwyedd, tegwch a lles.

Ynghyd â'n hymrwymiadau strategol i gynaliadwyedd, cynhwysiant a datblygiad rhanbarthol, mae'r polisi hwn yn sicrhau fframwaith ar gyfer sut mae'r Brifysgol, trwy ei Gwasanaeth Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd, yn ymgysylltu â chyflogwyr. Mae'n amlygu ein disgwyliadau ar gyfer cydweithio moesegol â diwydiant ac yn tywys y cymorth a gynigiwn i fyfyrwyr wrth iddynt lywio eu llwybrau gyrfa. Wrth wneud hynny, mae'n pwysleisio ein huchelgais i feithrin graddedigion sydd nid yn unig yn fedrus iawn, ond hefyd yn feddylgar, yn foesegol, ac wedi'u paratoi i ymdopi â heriau byd-eang ein hoes.

Drwy ymgorffori'r egwyddorion hyn yn ein cymorth gyrfaoedd, rydym yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Abertawe nid yn unig yn barod ar gyfer gwaith, ond hefyd yn barod i arwain gyda phwrpas.
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gynnal a hyrwyddo gyrfaoedd moesegol a gweithgareddau recriwtio yn unol â:
Gweledigaeth Strategol a Phwrpas Prifysgol Abertawe 2020
Polisi Cynaliadwyedd 2020
Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng yr Hinsawdd 2021-2025)
• Strategaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Abertawe a Phriodoleddau Graddedigion


Mae'r ymrwymiad hwn wedi'i ategu gan y ffactorau/nodau allweddol canlynol:
• Yr Argyfwng Hinsawdd
• Lles ac iechyd dynol
•  Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol( Cymru)
Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig

Egwyddorion Moesegol Gyrfaoedd a Recriwtio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd:
1.    Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i hyrwyddo gwasanaethau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd a chyflogadwyedd yn weithredol gyda sefydliadau sy'n cyfrannu at gynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol. Mae ‘hyrwyddo gweithredol’ yn ymwneud â phartneriaethau er mwyn i gyflogwyr a sectorau  gael eu hamlygu y tu hwnt i fwrdd swyddi ar-lein a ffeiriau gyrfaoedd y Brifysgol.

2.    Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol wedi'i achredu gan y Sefydliad Dyfodol Graddedigion (GFI, AGCAS gynt) sy'n ei gwneud yn ofynnol i brifysgolion "ymgorffori didueddrwydd yn nyluniad a darpariaeth gwasanaethau datblygu gyrfaoedd, fel bod myfyrwyr a graddedigion yn rhydd i archwilio a llunio eu llwybrau eu hunain" . Felly, byddwn yn cefnogi myfyrwyr, trwy ddefnyddio offer a fframweithiau, i ddatblygu safbwynt moesegol personol, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gyrfa a chyflogwyr posibl yn y dyfodol.

3.    Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cadw'r hawl i wrthod swyddi gwag neu wrthod cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau yn ôl ein disgresiwn os yw'n credu'n rhesymol nad ydynt er budd gorau myfyrwyr, graddedigion na'r Brifysgol. Yn benodol, bydd hyn yn cynnwys sefydliadau a/neu gyfleoedd sy'n:
•    Cynnig disgrifiadau swydd camarweiniol, anghyflawn neu anghywir.
•    Hyrwyddo neu’n cymeradwyo gweithgarwch neu arferion cyflogi anghyfreithlon.
•    Yn ein barn ni, mae'n gofyn am wariant ariannol afresymol gan yr ymgeisydd a/neu'n ei gwneud yn ofynnol i weithwyr ddefnyddio eu cyfrif banc personol ar gyfer pryniannau/gwerthiannau (e.e. cynlluniau gwerthu pyramid neu rwydwaith). 
•    Talu cyflog neu fath arall o ad-daliad/tâl mewn nwyddau sy'n seiliedig yn unig ar ganlyniadau neu gynlluniau sy'n seiliedig ar gymhellion, e.e. gwaith sy'n seiliedig ar gomisiwn neu ddyfarnu pwyntiau y gellir eu cyfnewid am wobrwyon.
•    Yn ymwneud â chynhyrchu a hyrwyddo cynhyrchion tybaco yn unol ag ymrwymiadau Cymru ddi-fwg a'r gwaharddiad cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
•    Peryglu iechyd a diogelwch myfyrwyr.
•    Gwrthdaro â chyngor teithio'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar adeg postio.
•    Recriwtwyr ddim yn datgelu lleoliadau rolau.

4.    Rydym yn ymrwymedig i ymgorffori Priodoleddau Graddedigion ym mhob rhaglen astudio ledled y Brifysgol.  Mae'r priodoleddau hyn yn integreiddio gwybodaeth am gynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (SDGs), gan sicrhau bod myfyrwyr yn deall safbwynt eu disgyblaeth ar yr heriau byd-eang hyn.     Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cwricwla yn apelio at gorff myfyrwyr sy'n ymwybodol o foesoldeb ac yn bodloni disgwyliadau cyflogwyr, gan gynnwys cymwyseddau sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gan gynhyrchu graddedigion sy'n ymwybodol o'r byd ac sy'n foesegol eu meddylfryd, sy'n barod i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

5.    Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cymorth i fentrau sy'n grymuso myfyrwyr i fynd i'r afael â heriau byd-eang (e.e. gwella mynediad at ddŵr glân, gwydnwch yn erbyn hinsawdd, a thegwch cymdeithasol) trwy arloesi, cydweithio, a dylunio cyfrifol, gan feithrin meddwl entrepreneuraidd mewn cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang.

6.    Rydym yn glynu wrth Safon Profiad Gwaith ein hachredwr (GGI). Rydym yn ymrwymo i gynnal arfer gorau mewn cyflogaeth drwy sicrhau bod pob interniaeth a ariennir yn llawn/yn gyfatebol yn cael ei thalu ar y Cyflog Byw Go Iawn, bod pob interniaeth ddi-dâl a gymeradwywn yn parhau i fod o dan 70 awr o waith, a’i bod o fudd amlwg i'r myfyriwr.

7.    Rydym yn weithredol o blaid ariannu gweithgareddau cyflogadwyedd gyda sefydliadau (yn enwedig sefydliadau lleol) sydd wedi ymrwymo i wella pobl a'r blaned.

8.    Rydym wedi ymrwymo i gyflawni prosiectau sy'n hwyluso mynediad at yrfaoedd i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig ac yn eiriol dros arferion recriwtio cynhwysol. 

9.    Rydym yn ymrwymo i gyfyngu ar faint o nwyddau a gynhyrchir/a gaffaelir gan Brifysgol Abertawe ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd a, lle bo modd, sicrhau eu bod wedi'u cyrchu'n foesegol, gan ffafrio cynhyrchion Masnach Deg, wedi'u hailgylchu neu nwyddau y gellir eu hailddefnyddio. Byddwn yn annog trydydd partïon rydym yn gweithio gyda nhw i fabwysiadu'r ymagwedd hon hefyd.

10.    Rydym yn gweithredu swyddfa ddi-bapur, lle bynnag y bo modd, er enghraifft, gan argraffu dim ond lle gall myfyrwyr fod angen addasiad rhesymol neu le ystyrir mai’r dull gorau o hysbysebu gwasanaeth hanfodol i fyfyrwyr yw ar bapur.Rydym yn gwneud defnydd llawn o ddulliau mwy cynaliadwy fel hysbysfyrddau digidol, byrddau hysbysebu ysgrifbinnau sialc, e-ymgyrchoedd, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a thebyg.

11.    Rydym yn ymrwymedig i dryloywder a hyrwyddo gwelliant parhaus trwy adborth. Mae manylion cyswllt llawn gan gynnwys enwau, rolau a chyfeiriadau e-bost yn bresennol ac maent ar gael yn hawdd ar ein tudalennau gwe. I gynnig adborth ar y polisi hwn, neu unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â Gyrfaoedd/Cyflogadwyedd, cysylltwch â Lucy Griffiths, Pennaeth Gyrfaoedd, Cyflogadwyedd a Lleoliadau ar 01792 606362 neu lucy.j.griffiths@abertawe.ac.uk.


Llywodraethu
12.    Bydd Bwrdd Dyfodol Myfyrwyr yn goruchwylio'r polisi hwn ac yn ei adolygu'n flynyddol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben, gan adrodd arno i Bwyllgor Addysg y Brifysgol. Bydd cyfrifoldeb o ddydd i ddydd yn nwylo Pennaeth Gyrfaoedd, Cyflogadwyedd a Lleoliadau Gwaith, a fydd yn atebol am y polisi ac am adrodd i Fwrdd Dyfodol Myfyrwyr.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda'r darparwyr trydydd parti canlynol sy'n gysylltiedig â Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd:
•    Job Teaser 
•    CareerSet
•    Profiling for Success
•    Shortlist.me
•    TG Consulting
•    Forage
•    Aspire2Be
•    Student Circus
•    eCareersGrad
•    Academi Agored Santander
•    Zero Gravity

Logos of sustainability accreditations and awards