
Gynhadledd Ar-lein Ryngwladol gyntaf Grŵp Ymchwil Ieithyddiaeth Goranaidd Prifys
Mae Grŵp Ymchwil Ieithyddiaeth Goranaidd Prifysgol Abertawe yn cynnal ei Gynhadledd Ar-lein Ryngwladol gyntaf erioed mewn cydweithrediad â Chanolfan Astudiaethau Islamaidd SOAS Prifysgol Llundain.
Mae’r digwyddiad cyntaf hwn yn dod ag arbenigwyr byd-eang mewn Ieithyddiaeth Goranaidd ynghyd.
Mae pynciau trafod yn cynnwys:
- Pragmateg Goranaidd
- Dadansoddiad semantig a geirfaol o themâu’r Coran mewn Dadansoddeg Disgwrs y Coran
- Ymagweddau ieithyddol at gysondeb a chydlyniant yn y Coran
- Ieithyddiaeth Testun y Coran
- Gramadeg a Chystrawen yn y Coran a Tafsir
- Ymagweddau digidol ac ystadegol at y Coran
Gweler rhaglen y gynhadledd am ragor o fanylion.
QLG International Conference Programme 2023
Neu cysylltwch â Dr Salwa El-awa, Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Ieithyddiaeth Goranaidd