ADDYSG NEWID YN YR HINSAWDD A CHYNALIADWYEDD MEWN LLEOLIADAU ADY A DARPARIAETH AMGEN
Dylai dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gael yr un cyfleoedd addysgol â'u cyfoedion prif ffrwd. Fodd bynnag, mae adroddiad diweddar gan Brifysgol Abertawe wedi canfod nad oes gan lawer o ddysgwyr mewn lleoliadau ADY a darpariaeth amgen fynediad at addysg newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd. Mae'r adroddiad wedi amlygu nifer o rwystrau i ddarpariaeth newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd mewn lleoliadau ADY a darpariaeth amgen, gan gynnwys:
- Diffyg adnoddau wedi'u teilwra h.y. dim adnoddau newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd a wnaed yn benodol ar gyfer dysgwyr ADY
- Diffyg rhwydweithiau arbenigol ar gyfer athrawon o leoliadau ADY a darpariaeth amgen
- Hyfforddiant annigonol ym maes newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd i athrawon a chynorthwywyr addysgu mewn lleoliadau ADY a darpariaeth amgen.
Cefnogwyd y gwaith hwn drwy Bartneriaeth SMART gan Lywodraeth Cymru a chydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a'r mudiad Cadwch Gymru'n Daclus.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch y prif ymchwilydd, Dr Jennifer Rudd yn j.a.rudd@abertawe.ac.uk neu'r cyd-ymchwilydd Dr Dai Thomas yn d.v.thomas@abertawe.ac.uk