Working Together in Challenging Times: Conflict, Complicity, Resistance, Innovation

DYDDIAD: 2-3 Gorffennaf 2026 | Campws y Bae Prifysgol Abertawe

Delwedd awyrol o Gampws y Bae

Prynhawn dydd Mercher 1 Gorffennaf 2026 - cyrraedd/derbyniad diodydd a Grwpiau PhD, Ymchwil Gyrfa Gynnar a Diddordeb Arbennig.

Dydd Iau i ddydd Gwener 2-3 Gorffennaf 2026 – y Gynhadledd Lawn

Croeso i'r Gynhadledd Flynyddol eleni - Working Together in Challenging Times - lle byddwn ni hefyd yn dathlu ail-frandio'r gymdeithas i JUSWA – Joint Universities Social Work Association.

Ymunwch â ni am ddigwyddiad rhyngwladol ysbrydoledig sy'n canolbwyntio ar un thema ganolog: dod â phobl ynghyd.

Mewn cyfnod pan fo addysgwyr, ymchwilwyr ac ymarferwyr gwaith cymdeithasol yn wynebu cyd-destunau byd-eang cymhleth sy'n newid yn gyflym, mae ein gwerthoedd a'n hegwyddorion a rennir yn bwysicach nag erioed.

Beth i'w ddisgwyl

Drwy gydol y gynhadledd, bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn rhaglen gyfoethog o:

  • Brif sgyrsiau gan leisiau blaenllaw mewn gwaith cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol
  • Seminarau a gweithdai rhyngweithiol
  • Sesiynau cydweithredol â'r nod o ysbrydoli syniadau newydd
  • Cyfleoedd rhwydweithio sy'n meithrin partneriaethau ystyrlon a hirdymor

Beth bynnag yw eich rôl mewn gwaith cymdeithasol - addysgwr, ymchwilydd, ymarferydd, myfyriwr, lluniwr polisi, neu efallai fod gennych ddiddordeb yn nyfodol gwaith cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol - mae gan y gynhadledd hon rywbeth i chi.

 

Pam dylech chi ddod?

  • Cysylltu ag eraill sy'n ymrwymedig i ddatblygu ysgolheictod ac ymarfer gwaith cymdeithasol
  • Archwilio ymchwil sy'n ymdrin â gwrthdaro, cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ledled Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r byd ehangach.
  • Meithrin rhwydweithiau a phartneriaethau yn seiliedig ar faterion o bwys cenedlaethol a byd-eang
  • Cefnogi arloesi rheng flaen mewn meithrin heddwch, datrys gwrthdaro a gwydnwch cymunedol

Sgwrs sy'n Wirioneddol Fyd-eang

Mae Prifysgol Abertawe'n falch o groesawu’r digwyddiad hwn sy'n dod ag addysgwyr, ymchwilwyr ac arloeswyr angerddol ynghyd. Gyda chynrychiolaeth o leisiau byd-eang, mae'r gynhadledd yn dathlu amrywiaeth, cydweithredu ac ymrwymiad a rennir i drawsnewid addysg uwch mewn ffyrdd ystyrlon a chynaliadwy.