Mae’r Sefydliad Ymchwil Diagnosteg a Thechnolegau Meddygol Uwch (ADMT) yn hyrwyddo ystod o ymchwil gofal iechyd ar draws y Brifysgol, y GIG a phartneriaid diwydiant, i chwalu ‘seilos’ a hybu’r diwylliant ymchwil ehangach.
Dan arweiniad yr Athro Jeremy Tree a Dr Jason Webber, nod Sefydliad Ymchwil ADMT yw gwella canfod cynnar, diagnosis a gofal iechyd trwy feithrin cydweithrediadau rhwng bioleg, technoleg, gwyddor ymddygiad a phrofiad bywyd claf.
Cleifion sydd ar flaen a chanol yr ymchwil hon - trwy feithrin cydweithrediadau trawsddisgyblaethol ein nod yw gwella bywydau cleifion. Gallai hyn fod drwy ddatblygu biofarcwyr newydd, lleihau’r amser a dreulir mewn ysbytai, neu wneud dyfeisiau’n fwy cyfforddus i’r claf/defnyddiwr terfynol (e.e. nyrs). Mae ein hymchwil yn cyd-fynd yn agos â diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Technoleg Iechyd.
Cymryd Rhan
Rydym yn croesawu unrhyw un sy’n rhannu ein gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd i ymuno â ni i hybu ein gweithgarwch cydweithio, gartref a thramor.
Yn benodol, rydym yn bwriadu parhau i gryfhau ein cysylltiadau â’r GIG, diwydiant a phartneriaid eraill ledled y byd.
Cysylltwch â ni