Mae rhestr fer y wobr lenyddol fwyaf gwerthfawr ac uchaf ei bri yn y byd i awduron ifanc - Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe - yn cael ei chyhoeddi heddiw, gan gynnwys chwe llais datblygol eithriadol y mae eu gwaith yn archwilio cariad a harddwch, cymdeithas a rhywedd - gyda phwyslais arbennig ar straeon dod i oedran.
Ceir pedair nofel a dau gasgliad o farddoniaeth ar y rhestr fer:
- To Rest Our Minds and Bodies gan Harriet Armstrong (Les Fugitives) – nofel (y DU)
- We Pretty Pieces of Flesh gan Colwill Brown (Chatto & Windus, Vintage) – nofel (y DU)
- Joy is My Middle Name gan Sasha Debevec-McKenney (Fitzcarraldo Editions) – barddoniaeth (UDA)
- Under the Blue gan Suzannah V. Evans (Bloomsbury Poetry) – barddoniaeth (y DU)
- Open, Heaven gan Seán Hewitt (Jonathan Cape, Vintage) – nofel (y DU)
- Borderline Fiction gan Derek Owusu (Canongate) – nofel (y DU)
Meddai Irenosen Okojie MBE, Cadeirydd y Beirniaid: "Dyma restr fer wych sy'n gwefreiddio. Rydyn ni wrth ein boddau gyda chwmpas, ehangder a dyfnder y llyfrau hyn yn eu holl ffurfiau. Mae gan y llyfrau hyn bethau dwys i'w ddweud am y ffyrdd rydyn ni'n byw, ystyr bod yn ddynol ac, ar y cyfan, maen nhw'n gafael yn y darllenydd ac yn llenwi'r dudalen ag egni newydd."
Mae'r ddau gasgliad o farddoniaeth ar y rhestr fer yn gyhoeddiadau cyntaf eu hawduron: y bardd Americanaidd, Sasha Debevec-McKenney, sy'n ysgrifennu am themâu rhyw, hil, caethiwed a diwylliant pop yn Joy is My Middle Name (Fitzcarraldo Editions); a Suzannah V. Evans o Fryste, gyda'i chasgliad o farddoniaeth, Under the Blue (Bloomsbury Poetry), archwiliad di-flewyn ar dafod o harddwch godidog bywyd a realitioedd gofal.
Mae dau o'r chwe awdur ar y rhestr fer wedi cael eu henwebu am y wobr o'r blaen. Mae'r awdur Prydeinig-Wyddelig, Seán Hewitt, a enwebwyd yn 2025, wedi cael ei ddewis eto am ei nofel dorcalonnus, Open, Heaven (Jonathan Cape), stori wefreiddiol o chwant cudd ar drothwy oedolaeth. Mae Derek Owusu, a enwebwyd am y wobr yn 2023, ar y rhestr am ei chwedl gyfoes, Borderline Fiction (Canongate), archwiliad manwl, weithiau'n anghyfforddus ac weithiau'n ddoniol, o sut brofiad yw bod yn ddyn du ifanc yn gwneud ei ffordd drwy'r byd heddiw.
Mae dod i oed yn thema fawr ym mhob un o'r pedair nofel ar y rhestr fer: mae Harriet Armstrong, yr awdur ieuengaf ar y rhestr fer, a hithau'n 25 oed yn unig, wedi cael ei henwebu am To Rest Our Minds and Bodies (Les Fugitives), ei nofel gyntaf sy'n ymdrin â pherthnasoedd cymhleth rhwng y rhywiau, cydsyniad a dirywiad iechyd meddwl Gen Z. Yn olaf, cydnabyddir Colwill Brown hefyd am ei nofel gyntaf, We Pretty Pieces of Flesh (Chatto & Windus), sy'n gafael yn eich llaw ac yn eich tywys drwy iardiau ysgol, aleau a chlybiau nos Doncaster yn ystod blynyddoedd cyntaf y ganrif hon.
Detholwyd y teitlau ar y rhestr fer gan banel o feirniaid dan gadeiryddiaeth Irenosen Okojie MBE, llenor Prydeinig o dras Nigeraidd, awdur Curandera, Butterfly Fish, Speak Gigantular a Nudibranch, a chyn feirniad y Women's Prize for Fiction. Yn ymuno â hi ar y panel y mae: Joe Dunthorne, bardd a nofelydd arobryn a anwyd yn Abertawe; Nidhi Zak/Aria Eipe, bardd, heddychwr a chwedleuwr; Prajwal Parajuly, awdur The Gurkha’s Daughter a Land Where I Flee a enwebwyd am wobrau lu; Eley Williams, awdur clodwiw a Chymrawd o'r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol.
Joe Dunthorne yn siarad am To Rest Our Minds and Bodies gan Harriet Armstrong:
"Profiad gwefreiddiol, taith i gariad ac obsesiwn sydd wedi'i chynnal yn wych – wedi’i hadrodd gan lais sy'n ffres, yn ddoniol ac yn hollol unigryw."
Nidhi Zak/Aria Eipe yn siarad am We Pretty Pieces of Flesh gan Colwill Brown:
"Golwg pwerus a phersonol ar fod yn ferch, dod i oed, yr hyn mae'n ei olygu a'r hyn sydd ei angen i deimlo eich bod yn perthyn. Anthem i gyfeillgarwch cyntaf, i'r lleoedd a'r bobl sydd yn ein creu ac yn ein newid, i'r pethau y gallwn eu dweud a'r pethau na allwn eu dweud, i'r bobl a fyddwn yn y dyfodol.”
Irenosen Okojie yn siarad am Joy is My Middle Name gan Sasha Debevec-McKenney:
"Godidog. Dyma gasgliad sy'n fwrlwm o syniadau. Yn ddiatal, yn hynod ddigrif ac yn danbaid.”
Eley Williams yn siarad am Under the Blue gan Suzannah V. Evans:
"Yn ymwybodol o'r agweddau personol ar ofalu a galaru, o'r gwrthdaro sydd ond yn rhy hawdd ei brocio, a'r eiliadau dirdynnol o lawenydd, sy'n ffrwyth ymdrech fawr, mae casgliad Evans yn waith llenyddiaeth gyfoes cywrain a gwobrwyol.
Prajwal Parajuly yn siarad am Open, Heaven gan Seán Hewitt:
"Archwiliad tyner o gariad a chwant - torcalonnus a hynod delynegol."
Irenosen Okojie yn siarad am Borderline Fiction gan Derek Owusu:
"Myfyrdod fforensig ar hunaniaeth gymhleth y Dyn Du Prydeinig. Yn llawn emosiwn a thynerwch."
Bydd y Llyfrgell Brydeinig yn cynnal digwyddiad i ddathlu'r rhestr fer ddydd Mercher 13 Mai a chyhoeddir yr enillydd yn ystod seremoni yn Abertawe ddydd Iau 14 Mai i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.
Mae'r wobr ryngwladol hon, sy'n werth £20,000, yn cydnabod dawn lenyddol eithriadol gan awduron 39 oed neu'n iau ac yn dathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu. Mae'r wobr wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, llenor a anwyd yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae'r wobr yn dwyn ei enw er mwyn cefnogi llenorion heddiw, meithrin doniau’r dyfodol a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.
Dyfarnwyd y wobr y llynedd i’r awdur o Balesteina, Yasmin Zaher, am ei nofel The Coin, ac mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Caleb Azumah Nelson, Arinze Ifeakandu, Patricia Lockwood, Max Porter, Raven Leilani, Bryan Washington, Fiona McFarlane, a Kayo Chingonyi.