Crynodeb graffigol o ganfyddiadau'r astudiaeth - gan Sasha Shute
Mae morfeydd heli de Cymru yn cefnogi dwysedd pysgod sydd bron teirgwaith y lefel ar lannau morydol heb lystyfiant, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.
Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Estuarine, Coastal and Shelf Science, yn dangos y cyfoethogrwydd mwyaf o ran rhywogaethau pysgod a gofnodwyd mewn morfa heli yn y DU. Mae hefyd yn darparu'r amcangyfrifon cyntaf yn y DU o gynhyrchiant pysgod mewn morfeydd heli naturiol, morfeydd heli wedi'u hadfer (adlinio a reolir) a glannau heb lystyfiant.
Mae'r ymchwil hon yn rhan o adroddiad tystiolaeth ehangach a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n archwilio sut mae cynefinoedd morfa heli yn cefnogi cymunedau pysgod ac yn cyfrannu at wasanaethau ecosystem gwlyptiroedd arfordirol.
Arolygodd ymchwilwyr 14 safle ar draws aberoedd Cilfach Tywyn a'r Tair Afon rhwng mis Hydref 2023 a mis Medi 2024, a chofnodwyd 8,525 o bysgod o 21 rhywogaeth gan ddefnyddio rhwydi sân a fyke, y bu 19 ohonynt yn bresennol mewn cynefinoedd morfa heli.
Dyma ganfyddiadau'r tîm:
- Mae morfeydd heli naturiol yn cefnogi lefelau uwch o ddwysedd, biomas a chynhyrchiant pysgod na safleoedd heb lystyfiant a safleoedd adlinio a reolir megis Cwm Ivy yng ngogledd Gŵyr.
- Roedd sawl rhywogaeth - gan gynnwys penwaig yr Iwerydd, hyrddiaid llwyd, lledod Ewropeaidd, llymrïod bach, crethyll tri phigyn a’r ystlys arian - yn llawer mwy tebygol o gael eu gweld mewn morfeydd heli.
- Dim ond mewn morfeydd heli naturiol y gwelwyd lefelau mesuradwy o gynhyrchiant pysgod.
Meddai Sasha Shute, a fu'n arwain yr astudiaeth yn Labordy Cadwraeth ac Ecoleg Forol (MarCEL) Prifysgol Abertawe: "Pan gynhaliwyd yr astudiaeth, roedd y safle yng Nghwm Ivy wedi bodoli ers 10 mlynedd yn unig - sy'n gymharol ifanc ar gyfer safle adlinio a reolir. Cafodd ei greu'n naturiol ar ôl i'r morglawdd gael ei dorri a chafodd e ddim ei gynllunio gyda physgod mewn golwg, sy'n esbonio'r cyfraddau cynhyrchiant is. Er gwaethaf hynny, rydyn ni eisoes yn gweld arwyddion addawol, yn enwedig y niferoedd cyson uchel o lysywennod Ewropeaidd, rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol."
Cofnodwyd chwe rhywogaeth mewn morfeydd heli drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys penwaig yr Iwerydd a lledod Ewropeaidd - a doedd dim un o'r rhain wedi cael ei gofnodi o'r blaen yn defnyddio morfeydd heli'r DU fel cynefin drwy gydol y flwyddyn ar gyfer pysgod ifanc. Dim ond mewn morfeydd heli y gwelwyd llymrïod bach, rhywogaeth ysglyfaeth bwysig ar gyfer adar y môr a mamaliaid morol, sy'n gysylltiad a gofnodwyd am y tro cyntaf yn y DU.
Meddai Dr Nicole Esteban, Athro Cysylltiol mewn Ecoleg Forol a Phennaeth MarCEL: "Pysgod iau oedd 83% o'r holl unigolion a gofnodwyd, sy'n tanlinellu rôl hollbwysig morfeydd heli fel meithrinfeydd. Roedd rhywogaethau o bwys masnachol, fel penwaig yr Iwerydd a hyrddiaid llwyd yn bresennol dim ond ar eu camau bywyd cynharaf. Mae'r rhywogaethau hyn yn symud rhwng cynefinoedd wrth iddyn nhw dyfu, gan amlygu pwysigrwydd morwedd arfordirol sydd wedi'i chysylltu'n dda".
Ychwanegodd Angus Garbutt, Prif Ecolegydd ac arbenigwr arfordirol yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU: "Ceir morfeydd heli mewn hinsoddau amrywiol, o'r Arctig i'r trofannau, ond eto ychydig iawn rydyn ni'n ei wybod o hyd am sut mae pysgod yn eu defnyddio. Mae'r adroddiad hwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr drwy ddangos bod morfeydd heli naturiol yn cefnogi lefelau uwch o ddwysedd, biomas a chynhyrchiant pysgod na glannau heb lystyfiant neu safleoedd adlinio a reolir. Mae'n atgyfnerthu'r angen i ddiogelu'r morfeydd sydd gennym ac i gyflymu ymdrechion i adfer y rhai hynny a gollwyd."
Mae morfeydd heli yn gynefin gwarchodedig o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Cymru) 2016 ac mae diddordeb yn eu hadfer yn cynyddu wrth i wlyptiroedd arfordirol barhau i ddirywio.
Mae brys cynyddol am waith adfer oherwydd graddfa'r colli: Mae Lloegr wedi colli dros 85% o'i morfeydd heli ers y 1800au, a rhagwelir y bydd 5,262 o hectarau ychwanegol yn diflannu ledled y DU erbyn 2026 heb ymyrraeth.
Mae'r canfyddiadau newydd yn cynnig data gwaelodlin hanfodol ar gyfer asesu'r gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan forfeydd heli, o gefnogi pysgodfeydd i wella bioamrywiaeth a gwydnwch arfordirol.
Meddai Ida Nielsen, Cynghorydd Arbenigol ar gyfer Pysgod Morol a Morydol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r ymchwil hon yn dangos yn glir werth morfeydd heli ar gyfer cefnogi pysgod iau ac yn amlygu'r gwahaniaethau rhwng morfeydd naturiol aeddfed a safleoedd a grëwyd yn ddiweddar. Bydd y canfyddiadau'n llywio ein cyngor ar ddatblygiadau morol yn y dyfodol ac yn helpu i lunio sut rydyn ni'n dylunio ac yn adfer morfeydd heli i roi'r cyfle gorau i natur adfer."
Darllenwch yr adroddiad tystiolaeth, TITLE, ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.