Kev Johns

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno Doethur mewn Llenyddiaeth i'r diddanwr a'r darlledwr annwyl Kev Johns MBE.

Mae'r dyfarniad yn cydnabod ei gyfraniadau anhygoel i adloniant a bywyd cymunedol Cymru, ochr yn ochr â'i ymroddiad diwyro i ddinas Abertawe.

Cafodd Kev ei radd er anrhydedd mewn seremoni raddio ddydd Iau 23 Gorffennaf, gan ddathlu yn Arena Abertawe gyda myfyrwyr Prifysgol Abertawe sy'n graddio.

Yn ddiweddar, mae Kev wedi dangos gwydnwch personol neilltuol. Ar ôl cael diagnosis canser cam 4 ar ei arennau, a dioddef strôc yn gynharach eleni, mae wedi brwydro'n ôl yn gadarn. 

Gyda'r ffisiotherapyddion a'r therapyddion lleferydd a gefnogodd ei adferiad yn y gynulleidfa, traddododd Kev araith emosiynol yn diolch iddynt am ei helpu i gerdded a siarad eto.

Wrth annerch y graddedigion newydd, meddai: “Mae rhannu’r llwyfan â chi heddiw wedi bod yn anrhydedd fy mywyd, a beth bynnag rydw i wedi’i wneud yn y gorffennol, a beth bynnag y byddaf yn ei wneud yn y dyfodol, ni fydd dim byd yn debyg i heddiw, oherwydd chi yw’r gorau ac rwy’n dymuno’r gorau i chi am y dyfodol.”

Roedd ei anerchiad yn deimladwy iawn a safodd pawb i'w gymeradwyo.

Wedi'i eni yn Abertawe ym 1961, a'i fagu yn ardal Plasmarl y ddinas, mae gyrfa anhygoel Kev yn rhychwantu mwy na thri degawd ym myd theatr, radio, chwaraeon, a gwaith elusennol.

Ei swydd gyntaf ym myd adloniant oedd fel diddanwr a digrifwr plant, gan ddatblygu’r sylfaen ar gyfer ei yrfa lwyddiannus ar y llwyfan. Heddiw, mae'n fwyaf adnabyddus am ei berthynas hir â Theatr y Grand Abertawe. Mae wedi ymddangos yn y pantomeim blynyddol am fwy na thri deg o flynyddoedd, gyda chenedlaethau o deuluoedd lleol yn caru ei berfformiad eiconig fel dâm draddodiadol y pantomeim.

Mae Kev hefyd yn un o gefnogwyr gydol oes Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Mae'n chwarae rôl hollbwysig yn hunaniaeth y clwb fel ei gaplan a chyhoeddwr swyddogol ar ddiwrnod y gêm. Gyda'i lais nodweddiadol yn rhan gyfarwydd o brofiad y stadiwm. Gan dynnu ar ei gefndir gweinidogaethol, mae hefyd yn darparu cymorth bugeiliol hollbwysig ac yn cynrychioli'r clwb yn rheolaidd mewn digwyddiadau cymunedol a choffa.

Y tu hwnt i'w gyflawniadau proffesiynol, mae Kev yn cael ei werthfawrogi'n eang am ei waith elusennol a gwirfoddol diflino. Trwy gydol ei yrfa mae wedi hyrwyddo nifer o achosion lleol ac wedi gweithredu fel noddwr neu lywydd ar gyfer sawl sefydliad cymunedol.

Mae ei ymroddiad wedi ennill canmoliaeth o fri iddo. Yn 2013, anrhydeddwyd yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) am ei wasanaethau i elusen. Dyfarnwyd iddo un o anrhydeddau dinesig uchaf Abertawe yn 2022 sef Rhyddid er Anrhydedd Dinas Abertawe.

Wrth fyfyrio ar ei radd er anrhydedd ar ôl y seremoni, meddai Kev: “Dydw i erioed wedi bod mor falch o unrhyw beth yn fy mywyd, ac roedd gweld yr holl bobl ifanc yn graddio ac yn dechrau ar eu taith mewn bywyd yn anhygoel.

“I fi, mae Prifysgol Abertawe yn Brifysgol anhygoel. Rydw i wedi cael canser, ac rydw i wedi cael strôc, ac mae cynifer o'r nyrsys a'r bobl wych sydd wedi gofalu amdanaf wedi hyfforddi ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r Brifysgol yn rhan annatod o fywyd Abertawe, o Technocamps, ei chysylltiad â'r Elyrch, Theatr Taliesin lle rydw i wedi perfformio sawl gwaith, ac un o'r dramâu gorau rydw i erioed wedi cymryd rhan ynddi a ysgrifennwyd gan fyfyriwr PhD Ysgrifennu Creadigol yn Abertawe. Mae heddiw wedi golygu’r byd i mi, mae wir yn anrhydedd enfawr."

Rhannu'r stori