Mae'r Athro Lucy Griffiths o Brifysgol Abertawe wedi cael ei hethol yn Gymrawd o Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, un o'r 74 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw sydd wedi'u cydnabod eleni am eu cyfraniadau aruthrol at ymchwil, polisi ac ymarfer.
Mae Cymrodoriaeth yr Academi yn cynnwys unigolion blaenllaw o'r byd academaidd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Caiff cymrodorion eu dewis yn dilyn proses gadarn ac annibynnol o adolygu gan gymheiriaid mewn cydnabyddiaeth o effaith sylweddol eu gwaith wrth helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau anoddaf a wynebir gan gymdeithas.
Mae'r Athro Lucy Griffiths yn Athro mewn Epidemioleg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn Gyd-gyfarwyddwr ac yn Arweinydd Ymchwil Academaidd ar gyfer Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru.
Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio astudiaethau carfan hydredol a data gweinyddol cysylltiedig i archwilio sut mae ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol yn llywio iechyd a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae'r gwaith hwn yn rhoi pwyslais penodol ar boblogaethau sy'n agored i niwed, gan gynnwys plant sydd wedi cael profiad o’r gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r rhai hynny sy'n byw mewn tlodi neu sy'n wynebu mathau eraill o adfyd.
Mae'r Athro Griffiths hefyd yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws portffolio o fuddsoddiadau ymchwil mawr yn y DU, ac mae ganddi hanes blaenorol helaeth o sicrhau, cyfarwyddo a chyflawni rhaglenni ymchwil data sy'n berthnasol i bolisi ar raddfa fawr.
Mae'r rhain wedi'u hariannu gan nifer o sefydliadau uchel eu bri gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Cyngor Ymchwil Meddygol, Nuffield Foundation, Wellcome Trust, ADR UK ac Ymchwil Data Iechyd y DU.
Wrth dderbyn y Gymrodoriaeth, dywedodd yr Athro Griffiths: "Rwy'n falch iawn o gael fy ethol yn Gymrawd o'r Academi, cydnabyddiaeth sy'n adlewyrchu cymorth a chydweithrediad nifer o gydweithwyr drwy gydol fy ngyrfa. Wrth i fynediad at ddata gweinyddol cysylltiedig agor posibiliadau newydd ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol, edrychaf ymlaen at ddatblygu ymchwil a all wella bywydau plant a theuluoedd."
Dywedodd Will Hutton FAcSS, Llywydd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae ein Cymrodorion newydd yn cynrychioli rhai o'r lleisiau mwyaf dylanwadol ym maes y gwyddorau cymdeithasol heddiw. Mae eu gwaith yn ehangu gwybodaeth, yn herio rhagdybiaethau ac yn cynhyrchu mewnwelediadau sy'n llywio a hyd yn oed yn ailddiffinio gwneud penderfyniadau ar draws llywodraethau, busnes, addysg a chymdeithas sifil.
"Mae'n bleser gennyf eu croesawu i'r Academi ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i godi proffil ac effaith y gwyddorau cymdeithasol ar draws y DU a'r tu hwnt."