Llun: Shutterstock
Cafodd tystiolaeth o ymchwil gan Ganolfan Ymchwil, Addysg a Thriniaeth Gamblo (GREAT) Prifysgol Abertawe ei chynnwys mewn adroddiad dylanwadol gan Dŷ'r Arglwyddi, lle argymhellwyd gweithredu gwaharddiad cynhwysfawr ar hysbysebion gamblo.
Gwahoddwyd y Ganolfan Ymchwil, Addysg a Thriniaeth Gamblo (GREAT) a Chanolfan Tystiolaeth Ymchwil i Niweidiau Gamblo’r DU i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yn seiliedig ar eu harbenigedd ymchwil a arweinir gan bolisi. Cyfeirir at y dystiolaeth hon trwy gydol yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y pwyllgor dylanwadol, y Pwyllgor Cyswllt.
Mae'r canfyddiadau'n argymell y dylai’r Llywodraeth roi gwaharddiad ar waith cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac y byddai gwneud hynny’n cynnig y polisi mwyaf effeithiol ar gyfer lleihau niwed gamblo.
Mae'r adroddiad yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor Dethol yn 2020 i effaith gymdeithasol ac economaidd y diwydiant gamblo, gan ganolbwyntio ar hysbysebu, marchnata a nawdd.
Mae Cyfarwyddwr Canolfan GREAT, yr Athro Simon Dymond yn gyd-arweinydd Canolfan Tystiolaeth Ymchwil i Niweidiau Gamblo'r DU, canolfan genedlaethol y DU a ariennir gan UKRI ar gyfer ymchwil annibynnol i niweidiau gamblo, y mae Abertawe ymhlith ei phartneriaid, yn ogystal â phrifysgolion Glasgow, Sheffield a Choleg y Brenin Llundain.
Cyflwyniad ysgrifenedig y Ganolfan Dystiolaeth yw'r darn o dystiolaeth a ddyfynnir fwyaf yn yr adroddiad a chyfeirir ato mewn mwy na 110 o droednodiadau - deirgwaith yn amlach na'r ail gyflwyniad a ddyfynnwyd fwyaf.
Disgrifir ymchwil a arweiniwyd gan Dr Jamie Torrance, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan GREAT, ar draws sawl pwnc allweddol yn yr adroddiad, gan gynnwys cysylltiad â logos gamblo yn ystod darllediadau'r Uwch-gynghrair, enwau noddwyr ar grysau a chitiau, y modd y mae gamblo wedi'i wreiddio ym maes hyrwyddo pêl-droed yn gyffredinol, deall gofynion betio a chymhellion ariannol, y label "betio am ddim" a thargedu cynigion hyrwyddo, honiadau bod cyfyngiadau hysbysebu'n arwain cwsmeriaid i droi at y farchnad anghyfreithlon, a hysbysebu a marchnata digidol o ran mathau newydd o gamblo sy'n dod i'r amlwg.
Mae argymhellion y Pwyllgor yn cynnwys:
- gwahardd brandio gamblo ar grysau, cit ac ar feysydd chwaraeon ac o'u hamgylch, gan ymestyn hynny i gynnwys citiau hyfforddi;
- gwaharddiad cynhwysfawr ar gymhellion ariannol;
- gwrthod honiadau bod cwsmeriaid yn troi at y farchnad anghyfreithlon pan nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi hyn; a,
- chyflwyno fframwaith rheoleiddio statudol ar gyfer hysbysebu gamblo a oruchwylir gan y Comisiwn Gamblo, ochr yn ochr â gwaharddiadau cynhwysfawr ar farchnata uniongyrchol a marchnata cynnwys gan weithredwyr yn y cyfryngau cymdeithasol.
Meddai'r Athro Dymond: "Mae'r adroddiad hwn yn gydnabyddiaeth glir a chalonogol bod y dystiolaeth o niwed hysbysebu gamblo bellach yn ormodol.
Rydym yn falch bod ein hymchwil wedi cael rôl mor ganolog wrth lunio canfyddiadau'r Pwyllgor. Gwaharddiad cynhwysfawr ar hysbysebu, marchnata a noddi gamblo yw'r cam unigol mwyaf effeithiol y gall y Llywodraeth ei gymryd i ddiogelu pobl rhag niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, ac rydym yn ei hannog i weithredu ar yr argymhellion hyn yn ddi-oed."
Ychwanegodd Dr Torrance: "Mae ein hymchwil wedi olrhain sut mae hysbysebu a nawdd gamblo wedi gwreiddio eu hunain ym myd pêl-droed, o noddi crysau i'r iaith a ddefnyddir ynghylch 'betio am ddim' a chynigion hyrwyddo.
Mae'r adroddiad hwn yn cydnabod bod yr arferion hyn yn normaleiddio gamblo ac yn cuddio'r risgiau cysylltiedig, yn enwedig i bobl ifanc a grwpiau sy’n agored i niwed.
Rydym hefyd yn falch o weld penderfyniad call y Pwyllgor i wrthod honiadau bod cyfyngu hysbysebu yn gwthio pobl tuag at weithredwyr anghyfreithlon lle nad oes tystiolaeth ddigonol i gefnogi hyn."