Llun: Pexels
Mae ymchwil newydd sylweddol yng Nghymru wedi datgelu sut mae cyfuniad o anomaleddau cynhenid, amddifadedd economaidd-gymdeithasol ac agweddau eraill ar amgylchiadau iechyd ac addysgol plant yn dylanwadu ar eu cyrhaeddiad.
Yn ôl yr astudiaeth, er bod plant ag anomaleddau cynhenid sylweddol yn llai tebygol o gyflawni safonau academaidd cenedlaethol, roedd dylanwad amddifadedd economaidd-gymdeithasol hyd yn oed yn fwy amlwg.
Dywed yr ymchwilwyr fod hyn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch sut mae iechyd, addysg ac anfantais gymdeithasol yn rhyngweithio drwy gydol plentyndod. Efallai y bydd angen i blant sy'n byw ag anabledd ac amddifadedd gael mwy o gymorth iechyd, addysg a chymdeithasol, a hoffai'r tîm weld mwy o ddarpariaeth integredig yn cael ei harchwilio ar draws iechyd, addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol.
Arweiniwyd yr astudiaeth gan yr Athro Sue Jordan ochr yn ochr â’r gwyddonwyr data, Ieuan Scanlon a Dr Anna Rawlings, o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe, gyda chydweithredwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Ulster, Ymchwil Polisi Mathematica (UDA) a City St George's, Prifysgol Llundain. Mae'n rhan o brosiect EUROlinkCAT a ariennir gan Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd.
Mae cysylltiad agos rhwng cyrhaeddiad addysgol a chyfleoedd bywyd, ansawdd bywyd ac iechyd. I blant sy'n byw ag anomaleddau cynhenid sylweddol, gall yr heriau sydd ynghlwm wrth iechyd gwael, anabledd, cyfnodau yn yr ysbyty ac anghenion dysgu ychwanegol oll effeithio ar eu profiadau yn yr ysgol.
Archwiliodd yr ymchwilwyr blant a anwyd yng Nghymru rhwng 1998 a 2007 gan ddilyn eu cofnodion hyd at 2019. Cafodd cyrhaeddiad addysgol ei asesu pan oeddent yn 11 ac yn 16 oed, gan gynnwys perfformiad yn ystod Cyfnod Allweddol 2 a chyflawni pum TGAU gyda graddau A*-C, gan gynnwys Saesneg neu'r Gymraeg, mathemateg a gwyddoniaeth. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys mwy na 256,000 o blant 11 oed a mwy na 128,000 o blant 16 oed.
Roedd y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), amgylchedd ymchwil dibynadwy, wrth wraidd yr ymchwil, ac roedd hynny'n golygu ei bod yn bosib dod â gwybodaeth o wahanol rannau o fywydau plant ynghyd mewn amgylchedd data dienw diogel.
Gwnaeth yr ymchwilwyr gysylltu cofnodion a gasglwyd yn rheolaidd, gan gynnwys y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, cofnodion geni a marwolaeth, cofnodion derbyniadau i'r ysbyty, Gwasanaeth Gwybodaeth a Chofrestr Anomaleddau Cynhenid Cymru (CARIS), a gwybodaeth ynghylch cymhwysedd am brydau ysgol am ddim, darpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig a chanlyniadau addysgol.
Yn 11 oed, cyflawnodd 81.9% o blant ag anomaleddau cynhenid sylweddol y safon addysgol berthnasol, o’u cymharu â 93.8% o blant heb anomaleddau cynhenid. Yn 16 oed, cyflawnodd 46.8% o blant ag anomaleddau cynhenid sylweddol bum TGAU gyda graddau A*-C, gan gynnwys Saesneg neu'r Gymraeg, mathemateg a gwyddoniaeth, o’u cymharu â 56.1% o blant heb anomaleddau cynhenid.
Fodd bynnag, darganfu’r ymchwilwyr fod cysylltiad cryf rhwng amddifadedd economaidd-gymdeithasol a chyrhaeddiad. Ymhlith plant yn y grŵp mwyaf difreintiedig (pumed o'r boblogaeth), dim ond 29.7% o'r rhai hynny ag anomaleddau cynhenid sylweddol a 38.4% o'r rhai hynny heb anomaleddau cynhenid sylweddol a gyflawnodd y safon o bum TGAU. Yn y grŵp lleiaf difreintiedig, cynyddodd cyrhaeddiad i 67.6% a 75%, yn ôl yr un drefn.
Roedd darpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig wedi lleihau'r gwahaniaethau rhwng plant ag anomaleddau cynhenid sylweddol a’r rhai hebddynt ond ni wnaeth gau'r bwlch cyrhaeddiad yn llwyr. Roedd plant a brofodd y cyfuniad o anomaleddau cynhenid sylweddol, amddifadedd, mynediad gwael at wasanaethau ac anghenion iechyd ychwanegol ymhlith y rhai hynny a oedd lleiaf tebygol o gyflawni'r safonau cenedlaethol.
Dywedodd yr Athro Jordan: "Roedd plant ag anomaleddau cynhenid sylweddol o'r grŵp lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol o gyflawni'r pum TGAU na phlant heb anomaleddau cynhenid sylweddol o grwpiau mwy difreintiedig. Nid yw'r gwahaniaethau rhwng grwpiau cyfoethog a rhai tlawd yn syndod - y gwahaniaeth o ddwy i bedair gwaith sydd angen sylw cynulleidfa ehangach."
Mae'r canfyddiadau'n amlygu pwysigrwydd cymorth cydgysylltiedig i blant y mae eu hanghenion iechyd a'u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol yn golygu eu bod yn wynebu risg uwch o anfantais addysgol.