- Rhif y Swydd
- SU01718
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £39,906 i £46,049 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 5 Tach 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 27 Tach 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Trystan Watson T.M.Watson@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Prifysgol Abertawe am benodi Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol i gyfrannu at brosiect Horizon Europe, READY-PV – Reliability Evaluation Through Analytics and Data for Emerging Technology in Photovoltaics.
Mae READY-PV yn brosiect seilwaith ymchwil Ewrop gyfan a gynlluniwyd i gyflymu datblygiad technolegau ffotofoltaidd (PV) newydd sy'n ddibynadwy ac yn wydn. Mae'r prosiect yn dwyn ynghyd seilweithiau ymchwil ledled Ewrop a thu hwnt i ddarparu mynediad at gyfleusterau uwch ar gyfer heneiddio dan do ac awyr agored, asesu perfformiad PV, nodweddu deunyddiau, dadansoddi diraddio a modelu sy'n seiliedig ar ddata.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at rôl Prifysgol Abertawe yn y prosiect, gyda chyfrifoldeb penodol am gefnogi profion dibynadwyedd ffotofoltaidd dan do ac yn yr awyr agored, ac am ddarparu mynediad at seilwaith ymchwil i ddefnyddwyr allanol. Bydd y rôl yn cynnwys gwaith arbrofol ar dechnolegau ffotofoltaidd sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys dyfeisiau ffotofoltaiddperofsgit ac organig, yn ogystal â chasglu, dadansoddi a dehongli data perfformiad ac amgylcheddol.
Bydd yr ymchwilydd ôl-ddoethurol yn cyfrannu at gyflawni prosiect READY-PV ym Mhrifysgol Abertawe, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu Mynediad Trawswladol i gyfleusterau profi a dibynadwyedd ffotofoltäig Abertawe. Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi profion perfformiad, gwydnwch a dirywiad dyfeisiau a modiwlau PV sy'n dod i'r amlwg dan do ac yn yr awyr agored, monitro eu perfformiad o dan amlygiad estynedig ac asesu'r berthynas ag amodau amgylcheddol. Bydd yr ymchwilydd hefyd yn cyfrannu at weithgareddau amgáu a lamineiddio, dylunio a chynnal cyfleusterau profi awyr agored, a gweithredu gweithdrefnau arbrofol a phrotocolau dibynadwyedd cyson.
Bydd yn cefnogi defnyddwyr allanol READY-PV wrth gynllunio a chynnal arbrofion yn Abertawe, gan gynnwys paratoi ar gyfer arbrofion, mesuriadau, casglu data a dadansoddiad cychwynnol, tra hefyd yn cyfrannu at gyfarfodydd prosiect, hyfforddiant, gweithdai a gweithgareddau lledaenu. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys paratoi adroddiadau technegol, papurau ymchwil a chyflwyniadau, a gweithio ar y cyd â phartneriaid academaidd, partneriaid seilwaith ymchwil a phartneriaid diwydiannol ar draws consortiwm READY-PV.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr