Rydym yn un o'r Adrannau Daearyddiaeth mwyaf hirsefydlog yn y DU. Mae tua 25,000 o fyfyrwyr wedi graddio o’r adran ers 1954. Mae ein cartref yn nhiroedd hardd Campws Parc Singleton.
Ein cenhadaeth yw cynnig addysgu rhagorol ynghyd ag ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, mewn amgylchedd diogel a chefnogol lle mae myfyrwyr a staff yn teimlo bod croeso iddynt ac y gallant gyflawni eu gorau.
Beth sy'n gwneud Adran Ddaearyddiaeth Abertawe yn unigryw?
- Mae cartref yr Adran yn agos at amgylchedd naturiol hardd Penrhyn Gŵyr a Sir Benfro yn ogystal ag orielau ac amgueddfeydd Abertawe, ac rydym yn trefnu sawl taith maes i’r tirweddau lleol yma.
- Rydym yn adran ganolig ei maint - yn ddigon mawr i gynnig dewis, ac yn ddigon bach i adnabod ein myfyrwyr yn bersonol.
- Rydym yn cysylltu ein hymchwil fyd-eang â heriau lleol, gan weithio'n agos gydag elusennau, byd diwydiant a sefydliadau'r trydydd sector, yng Nghymru a’r tu hwnt.
Cyflawniadau ein Hadran:
- Roedd Daearyddiaeth Ddynol a Gwyddorau Daearyddol Ffisegol yn y 5ed a'r 10fed safleoedd yn y DU am Agwedd Gadarnhaol Gyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) diweddaraf yn 2025*
- Yn y 23ain safle yn y DU ar gyfer Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Amgylchedd yn y 2025 Complete University Guide;
- Ymysg y 200 gorau yn y Byd ar gyfer Daearyddiaeth yn ôl Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025
*yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol o Gwestiynau 1-26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o'n cymharu ni â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide