Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01719
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£34,610 i £38,784 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
18 Hyd 2026
Dyddiad Cyfweliad
23 Hyd 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Prifysgol Abertawe am benodi Cynorthwy-ydd Ymchwil brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant i gyfrannu at y prosiect REACH-PSM ( Resilient Renewable Energy Access Through Community-Driven Holistic Development in Perovskite Solar Module Manufacturing).

Mae REACH-PSM yn cefnogi datblygu modiwlau perofsgit solar fforddiadwy a chynaliadwy a’u cynhyrchu’n lleol yn Nigeria, Rwanda, Kenya a De Affrica. Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae'n dod â phrifysgolion, diwydiant a chymunedau ynghyd i greu dulliau gweithgynhyrchu sy'n gadarn yn dechnegol, yn hyfyw yn economaidd ac yn addas ar gyfer anghenion lleol. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar gelloedd mesosgopig perofsgit solar triphlyg, y gellir eu cynhyrchu am gost isel gan ddefnyddio technegau syml fel argraffu sgrîn. Mae hefyd yn blaenoriaethu egwyddorion yr economi gylchol, gyda'r nod o leihau'r defnydd o adnoddau, lleihau gwastraff i'r eithaf, a gwella prosesu ac adfer deunyddiau ar ddiwedd eu hoes.

Bydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil yn cefnogi datblygiad celloedd solar perofsgit sy'n seiliedig ar garbon, gan gynnal ymchwil labordy, cynhyrchu dyfeisiau, optimeiddio a phrofi perfformiad. Gan weithio gyda thîm Prifysgol Abertawe, bydd yn ymchwilio i ddeunyddiau, prosesau a phensaernïaeth ac yn helpu i sefydlu dulliau y gellir eu hatgynhyrchu ar raddfa fwy sy'n addas ar gyfer technolegau solar cost isel, wedi'u hargraffu ar sgrîn ac y gellir eu cynhyrchu'n lleol. Mae'r rôl hefyd yn cyfrannu at nodau ehangach y prosiect o ran cynaliadwyedd, cylcholrwydd, cyfnewid gwybodaeth ac adeiladu capasiti gweithgynhyrchu. Mae'r rôl yn cynnwys cefnogi cydweithrediad â phartneriaid academaidd a diwydiannol yn y DU ac Affrica, gan gyfrannu at weithgareddau cyfnewid gwybodaeth ac amcanion ehangach prosiect REACH-PSM.

Y cyfrifoldebau allweddol yw cynnal ymchwil arbrofol ar gelloedd solar perofsgit planar a charbon, gyda ffocws ar doddyddion gwyrdd, gan gynnwys deunyddiau, prosesu a phensaernïaeth dyfeisiau, optimeiddio amodau gweithgynhyrchu a datblygu protocolau ar raddfa labordy gan gadw mewn golwg y potensial i’w hatgynhyrchu ar raddfa yn y dyfodol, dadansoddi sut mae paramedrau gweithgynhyrchu yn effeithio ar berfformiad, sefydlogrwydd ac atgynyrchadwyedd, cadw cofnodion labordy trylwyr a pharatoi adroddiadau, cyflwyniadau a dogfennaeth 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr