Ydych chi’n ystyried cyflwyno cais i wneud gradd ymchwil gyda ni? Mae datblygu cynnig ymchwil cryf â ffocws penodol yn gam hanfodol o'r broses ymgeisio. I helpu i ysbrydoli a thywys eich syniadau, rydyn ni wedi amlinellu detholiad o feysydd diddordeb ymchwil neu ‘deils' pwnc, sy'n arddangos rhai o'r arbenigeddau a'r diddordebau yn ein hysgol.

Nodyn Pwysig: Nid yw'r teils hyn wedi'u diffinio o flaen llaw, nid ydynt yn brosiectau a ariennir ac nid ydynt yn gwarantu y cewch eich derbyn nac eich goruchwylio. Fodd bynnag, mae'n bosib y byddant yn helpu i lunio eich cynnig ac amlygu sut mae eich diddordebau'n cyd-fynd â'n cymuned academaidd. Rydyn ni'n chwilio am syniadau arloesol, gwreiddiol ac rydym yn gobeithio y bydd y meysydd hyn yn tanio eich dychymyg i lunio cynnig ymchwil cymhellol.

Ydych chi'n barod i ddechrau archwilio? Edrychwch ar ein teils ymchwil isod a gweld i ble y gallai eich syniadau eich tywys.